
c.589/601 Bu farw Dewi Sant ar ôl sefydlu mynachlog ar safle’r Eglwys Gadeiriol bresennol.
645-1097 Bu sawl ymosodiad ar Dyddewi (Menevia) a’i dinistrio.
9fed ganrif Gofynnodd y Brenin Alfred am gymorth Tyddewi i adfywio traddodiad deallusol Wessex.
999 Lladdwyd yr Esgob Morgenau gan y Llychlynwyr.
1080 Lladdwyd yr Esgob Abraham gan y Llychlynwyr.
1081 Ymweliad William y Concwerwr â Thyddewi i weddďo yno.
1089 Difrodi creirfa Dewi Sant a dwyn y metelau gwerthfawr.
c.1090 Ysgrifennodd Rhigyfarch ‘Buchedd Dewi’ am sancteiddrwydd Dewi Sant.
1115 Penodi’r Esgob Bernard gan Harri’r I.
1123 Enillodd yr Esgob Bernard ‘fraint’ gan y Pab Calixtus II fel y byddai Tyddewi’n gyrchfan i bererinion.
1131 ‘Cyflwynodd’ yr Esgob Bernard Eglwys Gadeiriol newydd.
1171 Ymweliad Harri’r II.
1181 Dechrau codi’r Eglwys Gadeiriol bresennol.
1220 Cwymp y ‘twr newydd’.
1247/48 Niwed ar yr adeilad o achos daeargryn.
1328-47 Cyfnod yr Esgob Gŵyr: codi’r groglofft a Phalas yr Esgob.
1365 Codi Coleg y Santes Fair.
1509-22 Cyfnod yr Esgob Edward Fychan: codi Capel y Drindod.
1530-40 Codi to a nenfwd corff yr eglwys.
1538 Tynnodd yr Esgob Barlow y gemau o greirfa Dewi Sant a chymryd creiriau Dewi Sant a Sant Iwstinian i atal ‘ofergoel’.
c.1540 Gosod beddrod Edmwnd Tudur o flaen yr allor uchel.
1648 Difrododd milwyr Cromwell lawer o’r adeilad.
1793 Ailadeiladodd Nash yr Ochr Orllewinol.
1862-77 Adnewyddu gan Syr George Gilbert Scott.
1901 Adnewyddu Capel y Forwyn.
1900-1910 Adnewyddu’r capeli dwyreiniol eraill.
1982 Daeth y Frenhines Elisabeth II i roi Arian Cablyd.
1989-90 Dathlu mil pedwar can mlynedd ers marwolaeth Dewi Sant.
1993 Dathlu Gŵyl Dewi gyda Thywysog Cymru.
1995 Rhoes y Frenhines Elisabeth II statws dinas i Dyddewi.
2004-07 Codi’r cloestrau newydd.
|