Welsh version of highlights tour...
Highlights tour
Mae adeilad y Gadeirlan wedi newid dros amser mewn ymateb i anghenion ac arferion newydd. Yma, yng nghornel dde-orllewinol corff yr eglwys, gallwch weld bod tair ffrâm i’r ffenestr gron ar ffurf
rhosyn, sy'n dyddio o wahanol gyfnodau yn hanes y Gadeirlan.
Mae’r ffrâm floc isaf yn dyddio o’r ddeuddegfed ganrif. Yn y bedwaredd ganrif ar ddeg, roedd yr Esgob Gower am adael rhagor o oleuni i
mewn i’r adeilad a gorchmynnodd adeiladu ffenestri mwy, ac adlewyrchir hynny yn y ffrâm grom ehangach. Diogelodd Gilbert Scott hanes y ffenestr wrth wneud ei waith adfer yn y bedwaredd ganrif ar
bymtheg. Gwydr lliw o’r ugeinfed ganrif, gan Gwmni William Morris, sydd bellach yn y ffenestr.
Uwch eich pen mae nenfwd pren unigryw corff yr eglwys. Gwnaed hwnnw yn y 1530au o goed derw Cymreig ac mae’n gampwaith o ddawn cerfio.
Gyda’i addurniadau cain, dyma’r unig nenfwd o’i fath mewn unrhyw gadeirlan ym Mhrydain. Paneli coed derw yw’r rhan fwyaf ohono, gydag un ar hugain o grogaddurnau hardd odanynt, pob un yn 1.5 metr o uchder ac ychydig dros fetr o led. Addurnir ochrau a chonglau to corff yr eglwys hefyd a hannercrogaddurnau a chwartercrogaddurnau.
Yma gynt oedd safle Coleg y Santes Fair, a sefydlwyd ym 1365 gan yr Esgob Houghton. Trigai meistr a saith cymrawd yn y coleg, gan wasanaethu’r Gadeirlan.
Ailadeiladwyd y Cloestrau yn 2008 (edrychwch am olion yr hen gloestrau uwchlaw’r rhai newydd) a heddiw mae’r ardal hon yn gwasanaethu anghenion y Gadeirlan yn unol â gweledigaeth y sylfaenydd. Yma gallwch ganfod y Ffreutur ynghyd ag Oriel y Cloestrau, y toiledau a’r Ysgol Gân ar gyfer Côr y Gadeirlan.
The Cathedral Treasury opened in Spring 2006 to provide a safe home for treasures which tell the story of Christian worship and scholarship at St Davids that began 1,500 years ago and which continues to the present day.
The three categories assigned to the 'treasures' housed here are Treasures of the Bishops, Treasures of Worship, and Treasures of Scholarship. The bishops treasures include a variety of objects, reflecting the power and status of the Bishops of St Davids, which were discovered in the Cathedral graves of four early Bishops. Treasures of Worship include a small silver chalice made in 1618 of the sort of simple design popular in the Elizabethan period, and a silver plate for a communion set made in 1678 - on the rim of which is inscribed Ecclesis Cathedralis Menevensis. The Library contains some truly remarkable treasures of Scholarship. Some of these are on show in the Treasury and you can see many more if you visit the Library where the oldest book dates back to 1505.
In the twelfth century Pope Calixtus II declared St Davids Cathedral to be a place of pilgrimage. It was at this time that the medieval shrine was constructed and situated in the presbytery, close to the High Altar. Pope Calixtus II also stated that the shrine was so important that two pilgrimages to St Davids were equivalent to one to Rome, three were equivalent to one to Jerusalem.
Since then the path of pilgrimage has been trodden by hundreds of thousands of individuals. The destruction of the Shrine during the reformation caused a steep decline in this important religious practice; however, throughout the periods of religious and political turmoil pilgrims have continued to visit the site.
Ym 1509, adeiladodd yr Esgob Vaughan Gapel y Drindod Sanctaidd, mae’n debyg drwy ddefnyddio man gwag ym mhen dwyreiniol y Gadeirlan a adeiladwyd yn y ddeuddegfed ganrif.
Gosododd ei arfbais ei hun ynghyd ag arfbais Harri’r Seithfed yn y nenfwd â fowtio bwaog cain. Adeiladwyd yr allor a’i wrthgefn yn y 1920au o ddarnau canoloesol hardd a ganfuwyd yn ystod gwaith adfer. Ystyr y testun Lladin yw ‘Wele oen Duw sydd yn tynnu ymaith bechodau’r byd’.
Cafodd y capel hwn, sy’n dyddio o’r bedwaredd ganrif ar ddeg ac sy’n gysegredig i’r Forwyn Fair, ei ailwampio lawer gwaith.
Yn y gwaith a wnaed gan yr Esgob Vaughan yn yr unfed ganrif ar bymtheg, fe gadwyd y seddi carreg (sedilia) o’r bedwaredd ganrif ar ddeg a’r beddau cynharach, ond cwympodd ei nenfwd bwaog ym 1775, mae’n debyg o ganlyniad i ddwyn y plwm ym 1648.
Yma mae’r gofeb gywrain i’r Esgob Owen (bu farw 1926) a gwydr gan Kempe (1901). Mae sgrîn fetel Frank Roper (1973) yn derfyn tryloyw ar fan croesawgar a ddefnyddir yn rheolaidd ar gyfer addoli.
Mae beddrodau llawer o bobl nodedig yn hanes Cymru i’w gweld yn y Gadeirlan, gan gynnwys bedd tybiedig y tywysog Cymreig Rhys ap Gruffydd, yr Arglwydd Rhys.
Adferodd deyrnas ganoloesol Deheubarth yn ystod y Goresgyniad Normanaidd ac fe’i gelwid yn ‘Dywysog Cymru’. Daeth â beirdd a cherddorion o bob cwr o’r wlad ynghyd i’r Eisteddfod Genedlaethol gyntaf ym 1176. Mae’r beddrod â’i waith cerfio cain yn dyddio o’r bedwaredd ganrif ar ddeg, oddeutu dau gan mlynedd ar ôl ei farw.
Dyma’r côr. Uwch eich pen fe welwch nenfwd peintiedig y twr o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg a ger yr allor mae enghreifftiau prin o deils llawr sydd wedi goroesi o’r Canol Oesoedd.
Mae Cadeirlan Tyddewi’n unigryw am y ffaith bod ynddi sedd gôr frenhinol ymysg y seddau ar gyfer aelodau’r Cabidwl. Mae gan y seddau colfachog yn y côr siliau cerfiedig y gellir pwyso arnynt a elwir yn fisericordiau. Mae’r cerfiadau bywiog yn cynnwys draig, tylluan a phererinion yn chwydu dros ochr cwch oherwydd salwch môr!
Gosodwyd y sgrîn Gothig cywrain hwn gan yr Esgob Gower yn y 1340au, ac yma mae ei fedd. Edrychwch yn ofalus ac fe welwch ei fod wedi’i addurno â llawer o bennau dynol bach!
Ar y sgrîn y saif yr organ, a ailadeiladwyd yn y flwyddyn 2000. Ar yr ochr ogleddol fe welir cofeb Thomas Tomkins (bu farw 1656), a oedd yn un o gyfansoddwyr mawr cyfnod y Tuduriaid. Ganwyd Thomas yn Nhyddewi a bu’n canu yn y côr yma. Fe ddefnyddir ei gerddoriaeth yn y Gadeirlan hyd heddiwl.