Y Clychau

Mewn twr ar wahan y cedwir y clychau, hynny yw mewn adeilad sydd yn rhan o Borth y Twr ac yn dyddio o’r drydedd ganrif ar ddeg.Yn nhridegau y ganrif ddiwethaf cafodd y twr hwn ei atgyweirio trwy haelioni noddwr di-enw ac o’i herwydd penderfynwyd y buasai hongian y clychau yn yr adeilad newydd ei gryfhau yn gam call. Cyn hynny – yn 1750 i fod yn fanwl gywir- symudwyd y clychau o’r Gadeirlan gan fod perygly y cwympai’r twr yno.

Gellir gweld yn yr arddangosfa yn Nhwr y Borth yr unig un gloch sydd wedi goroesi o’r canoloesau, Efallai y mae rhywfaint o fetel o’r clychau gwreiddiol ym mhumed gloch yr oes hon hefyd. Mae deg cloch I gyd.

St Davids Cathedral Bellringers ringing for Armistic Day 2020. Image: Twitter, @StDavidsBells.
Yn y llun gwelir y clochyddion ar ddydd y Cadoediad 2020 (llun: Twitter@StDavids)

Fel arfer bydd clochyddion y Gadeirlan yn canu’r clychau rhwng 7.30yh a 9yh bob dydd Mercher er nad ydynt yn gwneud hyn gan amlaf os cynhelir cyngerdd yn y Gadeirlan ar yr un pryd a dyddiad. Am ragor o wybodaeth cysyllter a’r pen-glochydd, Peter Haywood: peterjaneh@hotmail.co.uk

Byddy sawl fydd yn canu’r clychau llaw yn cwrdd dydd Mercher hefyd ond am 4yp. Rhydd arweinydd y grwp,, Melanie Northall, ragor o wybodaeth . Ffon: 01437-721890.

Estynnir croeso cynnes I ymwelwyr ddod i’r ymarferion hyn. Ar fore Sul cenir y clychau rhwng 10.45yb a 11.10yb, hynny yw, yn union o flaen y gwasanaeth corawl.