Y Trysordy



Agorodd Trysordyr Eglwys Gadeiriol yng Ngwanwyn 2006 er mwyn bod yn gartref diogel i drysorau syn adrodd hanes addoli ac ysgolheictod Cristnogol yn Nhyddewi a ddechreuodd 1,500 mlynedd yn l ac syn para hyd heddiw.


Trysoraur Esgobion
Cafodd amrywiaeth o eitemau, syn adlewyrchu grym a statws Esgobion Tyddewi, eu canfod ym meddau pedwar or Esgobion cynnar yn yr Eglwys Gadeiriol. Maer rhain yn cynnwys modrwyon sydd iw gweld erbyn hyn yn y Trysordy - modrwyon wediu haddurno ag amethystau a oedd yn perthyn ir Esgob Beck ar Esgob Carew a modrwy aur blaen ac arni bum rhic, o bosibl i atgoffar sawl oedd yn ei gwisgo am bum clwyf Crist. Roedd Careglau (Cwpanau Cymun) arian syn cael eu harddangos hefyd wediu claddu gydar Esgob Beck ar Esgob Carew. Maer rhain yn dyddio nl ir 13eg ganrif.



Efallai mai baglau swyddogol yr Esgobion ywr mwyaf arbennig ymhlith y trysorau yn yr arddangosfa.  Maen nhw wediu gwneud o gopr wedii euro ac fe fydden nhwn cael eu cario gan yr esgobion mewn gwasanaethau 800 mlynedd yn l.  Mae un fagl, a gafwyd ym medd yr Esgob Gower, yn llawer mwy plaen nar lleill. Mae hon wedii gwneud o latwm, sef aloi o gopr, sinc, plwm a thun, ac fe gafodd ei gwneud yn unswydd iw chladdu gydar esgob.  Daethpwyd o hyd i ddarnau o arian canoloesol ym medd yr Esgob Beck.  Maer rhain yn dyddio o deyrnasiad y Brenin Edward III (1327-1377).



Maer arddangosfa hefyd yn cynnwys cop, oedd yn cael ei gwisgo gan yr Esgob Jenkinson, Esgob Tyddewi a fun bresennol yn Seremoni Goronir Frenhines Victoria ym 1838, ac a gymerodd ran ynddi drwy ddarllen y litani.


Trysorau Addoli
Drwy lawer o gyfnod y Tuduriaid ar Stiwartiaid, roedd trysorau eglwysi Cymru a Lloegr yn cael eu dinistrio wrth ir ddwy wlad bendilio rhwng etifeddiaeth Gatholig ganoloesol yr eglwys a Phrotestaniaeth Ddiwygiedig gyfoes. Ar l i Charles II gael ei adfer ir orsedd, bun rhaid i eitemau newydd gael eu gwneud iw defnyddio mewn gwasanaethau.

Maer eitemau syn cael eu harddangos yn cynnwys: caregl arian fach a wnaed ym 1618 ar gynllun syml a oedd yn boblogaidd yng nghyfnod Elizabeth, plt arian ar gyfer set gymun a wnaed ym 1678 - ar ymyl y plt hwn gwelir yr arysgrif Ecclesis Cathedralis Menevensis -


Eglwys Gadeiriol Mynyw (Tyddewi), careglau or bedwaredd ganrif ar bymtheg sydd wediu haddurno ag amethystau a garnedau ac Arian Cablyd.  Rhoddwyd y darnau arian hyn gan Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II i rai o ddinasyddion Tyddewi ar ddydd Iau Cablyd ym 1982.  Yn draddodiadol, byddai brenin neu frenhines Prydain yn golchi traed y tlodion ar y dydd Iau hwn cyn y Pasg, ond dechreuwyd rhoi arian yn hytrach na golchi traed yn ystod teyrnasiad James II (1685-1689).

Mae trysorau addolir Eglwys Gadeiriol yn cynnwys llawer mwy nag eitemau drudfawr.  Maer arddangosfa hefyd yn cynnwys gorchuddion blaen yr allor, syn cael eu defnyddio i addurnor allor wrth addoli.  (Maer rhain wediu gwneud fel arfer o sidan neu felfed gyda brodwaith cain, sydd yn aml yn defnyddio edau aur neu arian) Mae yna hefyd hesorau, sef clustogau trwm syn cael eu gosod yn y seddi er mwyn ir addolwyr benlinio i weddo.  Cafodd y rhan fwyaf or hesorau eu brodio iw defnyddio yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi gan Urdd Brodwaith yr Eglwys Gadeiriol. Mae pob rhan o Eglwys Gadeiriol Tyddewi yn cynnwys enghreifftiau gwych o gerfio coed - edrychwch yn ofalus ac fe welwch chi wynebau, angylion, ffrwythau ac anifeiliaid ymhlith y cerfiadau cain.  Yn y Trysordy gallwch weld darnau o dderw cerfiedig gan gynnwys pen angel oddi ar gas organ a osodwyd ym 1705.  Maer crefftwaith yn gyfraniad aruthrol at harddwch yr Eglwys Gadeiriol ac maen cynnwys nenfydau a seddi or 16eg ganrif a cherfiadau ar yr organ.  Maer adeilad ei hun yn deyrnged ogoneddus i Dduw. Mae Tyddewi yn gartref i bensaernaeth a chrefftwaith rhagorol, a gallwch weld enghreifftiau och cwmpas ym mhobman heddiw.

Trysorau Ysgolheictod
Mae gan Dyddewi draddodiad o ysgolheictod a all gael ei olrhain yn l ir dechrau yn deg.  Pan oedd ar y Brenin Alfred angen cymorth i ailadeiladu bywyd deallusol Wessex ar l iddi gael ei dinistrio gan y Llychlynwyr, galwodd ar Aser, Esgob Tyddewi, iw helpu.  Maer enw da hwn mewn ysgolheictod yn parhau hyd heddiw, ac mae wedii ymgorffori yn llyfrgell yr Eglwys Gadeiriol.

Mae gwreiddiaur Llyfrgell yn gorwedd ym mynachlog Dewi Sant, a oedd yn sefyll yma cyn ir Eglwys Gadeiriol gael ei chodi.  Roedd gan y fynachlog sgriptoriwm lle byddai mynachod yn ysgrifennu ac yn darlunio llawysgrifau a dogfennau. Er i lawer or casgliad gael ei ddinistrio ym mlynyddoedd helbulus yr 16eg ganrif ar 17eg ganrif, maer Llyfrgell yn cynnwys trysorau gwirioneddol hynod.  Mae rhai or rhain iw gweld yn y Trysordy a gallwch weld llawer mwy drwy ymweld r Llyfrgell lle maer llyfr hynaf yn dyddio yn l i 1505.  Mae casgliad y Llyfrgell yn ymdrin ag amrywiaeth mawr o bynciau gan gynnwys diwinyddiaeth, astudiaethaur Beibl, amaethyddiaeth, daearyddiaeth, llysieulyfrau, hanes, mathemateg, gwyddoniaeth a Chymru.  Mae trysoraur Llyfrgell yn cynnwys dalen o lawysgrif or 12fed ganrif am lyfr Exodus, argraffiad 1620 or Beibl Cymraeg ac argraffiad cyntaf o fap John Speed o Gymru, 1610. Dymar map darluniadol manwl cyntaf sydd ar gael o strydoedd prif drefi Cymru.

Lleoliad y Trysordy



Chwilio/Search:
(Chwilio Manwl/Advanced Search)  

 

Copyright St Davids Cathedral - Site design Aukett Brockliss Guy