The History of the Cathedral

Sefydlu Tyddewi

Ers canrifoedd bellach y mae’r lle hwn wedi bod yn gartref i gymuned addolgar ac yn arwydd o nerth ffydd a gobaith yn wyneb sawl her ers dyddiau Dewi yn y chweched ganrif.


Y gadeirlan yn y oesau canol

View of the Cathedral and its nave

Yr esgob Normanaidd Peter de Leia fu’n gyfrifol am godi’r Eglwys Gadeiriol bresennol. Tystia Gerallt Gymro yn y ddeuddegfed ganrif fod ambell gogfran yn lletya yma hefyd! Ysywaeth, cwympodd y tŵr yn y ganrif nesaf ond trwy ymdrechion yr Esgob Gower (ac yntau’n Gymro) aethpwyd ati i’w atgyweirio yn y bedwaredd ganrif ar ddeg, pryd newidiwyd gwedd corff yr eglwys a’r côr gan ychwanegu’r sgrin nodedig, hardd a chywrain sydd gennym heddiw. Yno hefyd y mae modd gweld beddrod yr esgob a hwnnw ar ffurf corffddelw.

Mae rhai bugeilffyn esgobol wedi goroesi hefyd ac maent yn cael eu harddangos yn y trysordy gerllaw.

Cymeriad hynod oedd Gower ac yn enghraifft brin o esgob Cymreig yma yn ystod teyrnasiad y Normaniaid. Ar ôl addysg estynedig yn Rhydychen, lle daliodd swydd canghellor y brifysgol, cafodd Gower ei ddyrchafu yn Esgob Tyddewi yn 1328. Aeth ati i adeiladu palas yr esgob gan fynnu hefyd gryfhau muriau allanol y clos ond, yn y pen draw, dim ond un adeilad o’i gynllun amddiffynnol sydd wedi goroesi yn gyflawn, sef Porth-y-Tŵr sy’n sefyll hyd heddiw wrth y clochdy wythonglog ger prif fynedfa’r clos.

Mae’r palas yn sefyll ychydig tu allan i diroedd sydd yn eiddo’r Gadeirlan ac o ganlyniad cyfrifoldeb Cadw, corff sy’n rhan o Lywodraeth Cymru, yw cynnal a chadw yr adfail. Serch hynny, dylid nodi mai pwrpas gwreiddiol Gower oedd adeiladu palas mawreddog yma a hyd at helbulon y Diwygiad yn yr unfed ganrif ar bymtheg byddai’r esgobion yn lletya yma.


Cynnwrf yr unfed ganrif ar bymtheg

Roedd diwygwyr y cyfnod hwn yn digio o weld holl gyfoeth bydol Eglwys Rufain.  Roedd y Protestaniaid, fel y’u gelwir, yn lladd ar yr hyn oedd yn eu barn yn llygredd  y drefn eglwysig. Eu nod  oedd adfer rôl ganolog y Beibl  yn nysgeidiaeth ac addoliad yr eglwys ac ym mhrofiad y Cristion cyffredin. I’r perwyl hwn, mynnodd y Diwygwyr gyhoeddi’r Ysgrythur Lân  nid yn  Lladin yr offeiriad ond yn  iaith y werin.  O ganlyniad i weithred brenin Lloegr a fynnai ymwahanu â’r Babaeth, penodwyd Protestant rhonc o’r enw William Barlow i’r esgobaeth hon  yn 1536. Bu’n aros yma tan 1547 pryd symudodd i esgobaeth arall, sef  Caerfaddon a Wells yn Lloegr. Mynnodd Barlow buro’r eglwys o ddylanwad y Babaeth gan farnu’n hallt yr hyn a ystyriai yn arferion  ofergoelus y canoloesau, megis pererindota i Dyddewi. Felly, distrywiodd Barlow bron ar unwaith greirfa Dewi Sant oedd wrth y brif allor. Trwy hyn rhoes derfyn ar yr arfer poblogaidd hwn. Canlyniad arall ei sêl a’i ddicllonedd  oedd gostyngiad sylweddol yn incwm y Gadeirlan. Collwyd llawer o greiriau a thrysorau yr eglwys hon ar yr un pryd a gwasgarwyd dogfennau a llawysgrifau hynafol a gedwid yn llyfrgell y mynaich. Mae ambell ddernyn wedi  goroesi mewn gwahanol gasgliadau  ar draws y byd ond am wybodaeth fanylach rhaid troi at gyfeiriadau ysgolheigion canoloesol oedd yn cyfeirio at eu ffynonellau. Yn ogystal,  tynnwyd ymaith  blwm to’r palas, gweithred a gyflymodd ddirywiad yr  adeilad hwnnw.  

 

Cathedral wooden ceiling
St Davids Cathedral nave ceiling

Serch hyn oll, rhaid talu teyrnged i’r rhai a fu’n gyfrifol am osod y nenfwd prydferth  yng nghorff y Gadeirlan yn ystod y ganrif hon gan fod eu gwaith yn enghraifft unigryw o nenfwd o’r fath – o leiaf ym Mhrydain Fawr. Mae’r paneli derw  yn arwydd o gamp a chelfyddyd y crefftwyr hyn a lwyddodd  i hongian   dau ar hugain  o grogaddurniadau a phob un â lled o fedr a hanner a dyfnder  o ddau fedr. Mae ochrau a chorneli y to wedi eu haddurno â chrogaddurniadau a’r coed wedi ei dorri ar yr hanner neu ar y chwarter.

Dymuniad Barlow oedd symud ei bencadlys i safle mwy canolog, megis Caerfyrddin, ac yn wir symudodd ei gartref i Abergwili. Nid ymhyfrydai yn ysblander a chyfoeth y palas yma. Swynwyd gan y syniad o gael cadeirlan yn yr un dref ond methodd wireddu ei gynllun. Eto, mae Esgob Tyddewi yn dal i fyw yn Abergwili.

Bishops Palace Exterior
Bishops Palace exterior today

Llanastr oedd nodwedd y ganrif ganlynol. Aeth y palas yn adfail. Daeth Pengryniaid Cromwell yma yn ystod y Rhyfel Cartref gan ddwyn y plwm oedd ar do’r Gadeirlan. At hyn, drylliwyd y ffenestri lliw ac achoswyd difrod i’r tŵr pan gipiwyd y clychau. Difrodwyd yr organ y tu hwnt i adfer a gadawyd rhan helaeth pen dwyreiniol yr eglwys heb do ac felly yn ddiamddiffyn rhag y  gwynt a’r glaw. Aeth yr adeilad yn furddun i bob pwrpas.


Atgyweiriad

Tower ceiling
St Davids Cathedral central tower vault, inserted by George Gilbert Scott

 

Er rhywfaint o drwsio yn nau ddegawd olaf y ddeunawfed ganrif, bu angen gwaith atgyweirio llawer ehangach yn y ganrif nesaf pryd ymatebodd yr Esgob Thirlwall i’r her gan benodi George Gilbert Scott, pensaer eglwysig go enwog, i fynd i’r afael â’r gwaith o gynnal archwiliad manwl. Cyflwynodd Scott ei adroddiad flwyddyn yn ddiweddarach, yn 1862, gan dynnu sylw’r awdurdodau at yr hollt yn y tŵr a’r modd yr oedd dŵr o afon Alun gerllaw yn hidlo i mewn i’r adeilad. Atgyfnerthodd Scott y tŵr trwy osod rhodenni cyswllt i ddal y waliau ynghyd a gwelir y rhodenni hyn o hyd. Symudodd hefyd y to mewnol (neu gromen) yn uwch fyth am iddo dorri ar draws rhai o brif ffenestri’r tŵr. Uwchben yr un ffenestri y mae to mewnol o hyd. Mae hyn yn gadael i’r golau dreiddio trwyddynt ac yn ein galluogi i syllu ar y nenfwd lliwgar a osodwyd yno ar yr un pryd.

Llawer ynghynt, a thua diwedd y ddeunawfed ganrif, buasai rhai yn awyddus i drwsio’r Gadeirlan yn y dull Gothig oedd yn ffasiynol bryd hynny. Dyhead selogion y mudiad Gothig hwn oedd codi addoldai newydd ac ymddangosiad canoloesol ganddynt. Felly, tua’r amser hwn, penodwyd John Nash i ailadeiladu talcen gorllewinol y Gadeirlan oedd yn gwyro oddi ar weddill yr adeilad ac yn beryglus. Er ei geinder yr oedd y mur newydd yn anaddas gan fod y pensaer wedi asio hwn wrth furiau corff yr eglwys a hwythau yn eu tro yn goleddfu tua’r gorllewin dan bwsyau’r tŵr arnynt. Erbyn i Scott ddod i’r adwy yn y 1860au yr oedd y talcen yn beryglus unwaith eto a bu rhaid ailwneud y cwbl.

Yn ystod teyrnasiad y Frenhines Victoria cafodd llawer o eglwysi eu hadfer trwy haelioni y cyhoedd. Dan arweiniad William Basil Jones, Esgob Tyddewi yn ddiweddarach, a’r hanesydd Edward Freeman, trefnwyd ymgyrch i godi arian yma. At hyn, cyhoeddodd y ddau awdur hyn lyfr pwysig yn 1856 yn dwyn y teitl ‘Hanes a henebion Tyddewi / History and Antiquities of St David’. Y mae’r rhestr faith o danysgrifwyr i’r cyhoeddiad yn dyst i’r diddordeb byw yn y Gadeirlan.

Genhedlaeth a mwy yn ddiweddarach arweiniodd y Deon Howell apêl i drwsio Capel Mair. Cwblhawyd y gwaith hwn ym mis Hydref 1901 a chynhaliwyd gwasanaeth nodedig a’r Esgob Caerwysg yn traddodi pregeth ar y testun ‘Y tŷ nas cwympodd’.

Cathedral western wall following George Gilbert Scott's design